Cefais fy ngeni yn Aberystwyth a fy magu yng Ngogledd Cymru, a threuliais y rhan fwyaf o fy mhlentyndod a’r blynyddoedd fel oedolyn ifanc yn Llangollen, Sir Ddinbych.
Yn ystod fy arddegau, dechreuais ymwneud â gwleidyddiaeth fel rhan o fy Nghyngor Tref lleol, Cyngor Ieuenctid y Sir a Senedd Ieuenctid Cymru, lle cefais gyfle i siarad yn nadl y senedd ieuenctid ar deledu byw yn 2014 gan siarad yn Gymraeg a Saesneg ar y llwyfan, am Hedd Wyn, o Drawsfynydd, arwr a daniodd fy niddordeb ymhellach mewn dilyn gyrfa wleidyddol yn y dyfodol. Treuliais amser hefyd yn cwblhau profiad gwaith ac interniaeth gyda gwleidyddion lleol a olygai fy mod wedi dod i gysylltiad â San Steffan a gwleidyddiaeth leol tra oeddwn yn dal yn yr ysgol.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerwysg mewn Hanes ac Almaeneg (BA) yn 2019, bûm yn gweithio fel Ymchwilydd Seneddol ar gyfer yr AS, Susan Elan Jones (AS Llafur 2010-2019), - roedd ei hetholaeth yn cynnwys fy nhref enedigol, Llangollen. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Rheolwr Talent yn Llundain, yn gyfrifol am recriwtio ar draws EMEA ar gyfer cwmni Rhwydwaith Arbenigol o'r enw Atheneum.
Rwy'n angerddol iawn am sicrhau bod Cymru’n cael mwy o lais fel persbectif pwysig yn y ddadl wleidyddol nad yw'n aml yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Rwy'n edrych ymlaen at ymgyrchu yn Nwyfor Meirionnydd. Bydd pwysigrwydd y Gymraeg wrth wraidd fy nghenhadaeth.