5 Nod y Blaid Lafur er mwyn cael Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach



Bob dydd, rydyn ni'n gweithio i gyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl ledled Cymru – ond dychmygwch faint mwy y gallem ei wneud gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Keir Starmer fel Prif Weinidog.

Vaughan Gething
Aweinydd Llafur Cymru a Prif Weinidog Cymru

 



Cael ein heconomi i dyfu unwaith eto

  • Bydd eich incwm yn cynyddu'n gynt na'ch gwariant.

  • Buddsoddi £100m i drawsnewid trefi a'r stryd fawr yng Nghymru.

  • Datblygu gweithlu medrus i gefnogi heriau sero net.

Datgloi potensial ynni gwyrdd Cymru

  • Cwtogi eich biliau ynni unwaith ac am byth, gan arbed cannoedd o bunnoedd i chi.

  • Bydd ein datblygwr ynni newydd sy'n eiddo i'r cyhoedd yn sicrhau bod yr elw o ynni sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn aros yng Nghymru.

  • Creu swyddi newydd a medrus yn ein diwydiannau gwyrdd er mwyn atgyfnerthu ein hardaloedd diwydiannol.

  • Diogelwch ynni fel nad ydym yn ddibynnol ar arweinwyr fel Putin.

Moderneiddio ein GIG

  • Hyfforddi mwy o feddygon a nyrsys nag erioed o'r blaen, a diogelu presgripsiynau am ddim i bawb.

  • Darparu mwy o wasanaethau drwy eich meddyg teulu a'ch fferyllfa, gan gyflymu mynediad a rhyddhau'r pwysau ar ysbytai.

  • Agor ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru.

  • Lleihau amseroedd aros hir, a dod â gofal yn nes at adref.

Gwneud ein strydoedd yn ddiogel

  • Gweithio gyda'r heddlu i feithrin hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

  • Rhoi mwy o heddlu cymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar ein strydoedd i gadw cymunedau'n ddiogel.

  • Mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a merched, lle bynnag mae'n digwydd.

Chwalu’r rhwystrau rhag cyfleoedd

  • Ehangu'r cynnig gofal plant sy'n cael ei ariannu'n fwyaf hael yn y DU, a darparu prydau am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.

  • Buddsoddi yn y Warant i Bobl Ifanc a sicrhau prentisiaethau o safon i bobl o bob oed er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

  • Ehangu cyfleoedd dysgu am ddim i'r gweithwyr sy'n cael y cyflogau isaf, gan roi hwb i ragolygon ac enillion yn niwydiannau'r dyfodol.


Pa un o bum nod y Blaid Lafur sydd bwysicaf i chi?



Darganfyddwch fwy am ein hymgyrchoedd hollbwysig i ennill - gyda'r manylion cyswllt rydych wedi dewis eu darparu, gall y Blaid Lafur eich diweddaru trwy e-bost a negeseuon testun ar yr ymgyrchoedd diweddaraf, digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan:
Mae angen y maes hwn

Gallwch reoli eich dewisiadau neu ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych, megis enw a chod post, i gyfateb y data a ddarparwyd i’ch cofnod cofrestr etholiadol a gedwir ar ein cronfa ddata etholiadol, a allai lywio cyfathrebiadau a gewch gennym yn y dyfodol. Efallai y byddwn yn defnyddio'ch atebion i'n helpu i ymgyrchu'n well. Os ydych yn cofrestru ar gyfer digwyddiad, efallai y byddwn yn dal i ddefnyddio'r manylion a ddarparwyd i gysylltu â chi yn benodol am y digwyddiad hwnnw. Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth cliciwch yma.