Cefais fy mhen-blwydd yn 18 oed ym mis Mehefin 2010, yn union fel yr oedd clymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyflwyno’r cyfnod o gyni. Yn ystod fy mywyd fel oedolyn, rwyf wedi gweld sut mae polisi'r Torïaid wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa wael a gwanhau ein cymunedau.
Fel bargyfreithiwr yn ymarfer mewn cyfraith gofal iechyd, gwelais y pwysau oedd yn wynebu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fel trefnydd undeb llafur, gwelais arferion gwaith gan gwmnïau a oedd yn rhy aml yn cymryd mantais o’u staff ac yn gwrthod talu eu glanhawyr yn iawn. Ac fel aelod o'r cyhoedd, rwyf wedi gweld nad yw'r rhai sydd mewn grym, boed yn wleidyddion Torïaidd neu'n benaethiaid corfforaethau rhyngwladol, yn gwrando ar bobl gyffredin - ac yn enwedig y bobl hynny mewn cymunedau gwledig ac arfordirol fel Sir Benfro.
Yr anghyfiawnderau hyn sydd wedi fy ysgogi i sefyll, oherwydd credaf y bydd llywodraeth Lafur yn helpu i wella bywydau pobl er gwell, ac rwy'n hyderus y gallaf wneud gwahaniaeth fel rhan o'r mudiad hwnnw.
Mae gen i'r sgiliau a'r egni i fod yn AS y gallwch chi fod yn falch ohono, a dyna pam rwy'n gofyn i chi roi cyfle i mi fel y gallaf frwydro drosoch chi yn San Steffan.