Steve Witherden ydw i a fi yw ymgeisydd Plaid Lafur Cymru ar gyfer Sir Drefaldwyn a Glyndwr.
Rwy'n 42 oed ac rwy'n byw yng ngogledd yr etholaeth, gyda fy ngwraig Katie (un o weithwyr Gwasanaethau Canser y GIG) a fy mab a fy merch (sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr etholaeth).
Athro ydw i ac rwyf wedi gweithio mewn ysgol ar gyrion yr etholaeth ac yn addysgu plant o'n hetholaeth am 18 mlynedd, fel Pennaeth Maes Cwricwlwm am 13 mlynedd. Rwyf hefyd wedi bod yn cymryd rhan weithgar yn y mudiad undeb llafur, a chefais fy newis fel: Cynrychiolydd yn y Gweithle yn 2009; Ysgrifennydd Sir yn 2015; Cyd-ysgrifennydd y Sir (corff ymbarél 5-undeb) yn 2017; un o bedwar aelod Gweithredol Cenedlaethol Cymru yn 2020; a Llywydd Cymru yn 2021.
Pam ydw i'n sefyll i fod yn AS? Rwyf wrth fy modd â'r ardal hon, lle cefais fy ngeni a fy magu, lle rwy’n byw gyda fy nheulu ac wedi ymgartrefu. Fel gweithiwr rheng flaen yn y sector cyhoeddus ac fel rhywun sy’n byw yn yr ardal, rwyf wedi gweld llywodraeth y 15 mlynedd diwethaf yn gwneud niwed aruthrol yma. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r niwed hwn wedi cynyddu, gyda’r Argyfwng Costau Byw yn cael effaith ddinistriol ar ein cymuned. Mae Angen Newid ar frys ac rwy'n gobeithio helpu i sbarduno’r newid hwnnw.