BANGOR ABERCONWY




Claire Hughes

X [Twitter]



Rwy'n falch o alw Bangor Aberconwy yn gartref. Dyna lle ges i fy magu, lle dw i'n byw, a lle dw i wedi magu fy mhlant. I lawer ohonom, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd. Y pandemig. Yr argyfwng costau byw. Ar ôl 13 mlynedd o lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd iawn.

Er gwaethaf hyn, rwy'n llawn gobaith. Wrth i ni adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach, gyda'n gilydd - mae llawer i deimlo'n gyffrous yn ei gylch. Ein hadnoddau naturiol. Talent sy'n arwain y byd. Diwylliant ac iaith fywiog. Drwy wneud pethau'n iawn gallem wneud Bangor Aberconwy yn lle gwell fyth i fyw.

Dros y 25 mlynedd diwethaf, rwyf wedi helpu sefydliadau o bob maint i groesawu’r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil dyfodol digidol sy'n newid yn gyflym. O ficrofusnesau i fusnesau newydd technoleg, elusennau i fy nghyngor cymuned lleol. Fel eich AS Llafur, byddwn yn defnyddio fy sgiliau a fy mhrofiad i ddod â bywyd newydd i'r stryd fawr. Byddaf yn cefnogi ein ffermwyr a'n busnesau bach, yn diogelu'r amgylchedd ac yn creu swyddi newydd gan frwydro i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un ddewis rhwng gwresogi eu cartref neu roi bwyd ar y bwrdd.

Gyda'ch cefnogaeth chi, byddaf yn ymdrechu bob dydd i ddod â'r newid hwnnw i bobl Bangor Aberconwy. Gadewch i ni gael ein dyfodol yn ôl.

Gwirfoddoli

Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud rhwng nawr a’r diwrnod pleidleisio yw cnocio ar gynifer o ddrysau â phosibl yn yr etholaeth, a lledaenu’r gair am ein hymgeisydd anhygoel. A wnewch chi gofrestru i gnocio ar ddrysau?



Galw pleidleiswyr

Os nad ydych chi’n gallu mynd o ddrws i ddrws, gallwch barhau i gael sgyrsiau hanfodol am ein hymgeisydd rhagorol gyda phleidleiswyr drwy ddefnyddio ap ‘Dialogue’ y Blaid Lafur. Cliciwch yma i wneud galwadau yn yr etholaeth.



 

5 Nod y Blaid Lafur er mwyn cael Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach.

Bob dydd, rydyn ni'n gweithio'n galed i gyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl ledled Cymru – ond dychmygwch faint mwy y gallem ei wneud gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Keir Starmer fel Prif Weinidog.

Darganfodwch fwy