VALE OF GLAMORGAN




Kanishka Naryan

X [Twitter]

Facebook

Instagram



Diolch am ymweld. Kanishka ydw i, Ymgeisydd Seneddol Llafur ym Mro Morgannwg.

Rwy’n byw yn y Barri ac fe ges i fy magu yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun effaith llywodraeth Lafur yn San Steffan: dyfodiad yr isafswm cyflog, hwb mewn cyllid ar gyfer addysg a gofal iechyd, yr economi’n mynd i’r cyfeiriad iawn.

Fel rhan o genhedlaeth newydd mewn gwleidyddiaeth, rwy’n sefyll i ddad-wneud y tair blynedd ar ddeg o ddifrod a wnaed gan y llywodraeth Geidwadol. Fy mlaenoriaethau yw cael yr hanfodion yn iawn – swyddi lleol da, cymdogaethau mwy diogel, rhoi ein cymuned yn gyntaf. Credaf y gallwn, gyda’n gilydd, greu dyfodol gwell i’r Fro.

Ymunwch â mi!

Gwirfoddoli

Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud rhwng nawr a’r diwrnod pleidleisio yw cnocio ar gynifer o ddrysau â phosibl yn yr etholaeth, a lledaenu’r gair am ein hymgeisydd anhygoel. A wnewch chi gofrestru i gnocio ar ddrysau?



Galw pleidleiswyr

Os nad ydych chi’n gallu mynd o ddrws i ddrws, gallwch barhau i gael sgyrsiau hanfodol am ein hymgeisydd rhagorol gyda phleidleiswyr drwy ddefnyddio ap ‘Dialogue’ y Blaid Lafur. Cliciwch yma i wneud galwadau yn yr etholaeth.



 

5 Nod y Blaid Lafur er mwyn cael Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach.

Bob dydd, rydyn ni'n gweithio'n galed i gyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl ledled Cymru – ond dychmygwch faint mwy y gallem ei wneud gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Keir Starmer fel Prif Weinidog.

Darganfodwch fwy