Diolch am ymweld. Kanishka ydw i, Ymgeisydd Seneddol Llafur ym Mro Morgannwg.
Rwy’n byw yn y Barri ac fe ges i fy magu yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun effaith llywodraeth Lafur yn San Steffan: dyfodiad yr isafswm cyflog, hwb mewn cyllid ar gyfer addysg a gofal iechyd, yr economi’n mynd i’r cyfeiriad iawn.
Fel rhan o genhedlaeth newydd mewn gwleidyddiaeth, rwy’n sefyll i ddad-wneud y tair blynedd ar ddeg o ddifrod a wnaed gan y llywodraeth Geidwadol. Fy mlaenoriaethau yw cael yr hanfodion yn iawn – swyddi lleol da, cymdogaethau mwy diogel, rhoi ein cymuned yn gyntaf. Credaf y gallwn, gyda’n gilydd, greu dyfodol gwell i’r Fro.
Ymunwch â mi!