Helô! Fy enw i yw Ieuan Môn Williams a fi yw’r ymgeisydd Llafur ar gyfer Ynys Môn yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Mae enw ein Hynys wedi bod gyda fi ar hyd fy oes. Mae fy nheulu cyfan yn dod o Ynys Môn ac fe’m magwyd yng Nghaergybi, lle’r oedd fy nhad yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol am 36 blynedd a fy mam yn gwasanaethu ei chymuned gyda’r Geidiau. Rydw i wedi symud yn ôl i’r Ynys yn ddiweddar gyda fy ngwraig i fagu ein mab yma.
Rydw i wedi gweithio ym maes ynni glân ers sawl blwyddyn, ar ôl gweithio yn San Steffan gynt i’n AS Llafur Cymru diwethaf, Albert Owen. Rydw i’n bwriadu hyrwyddo ynni glân ar Ynys Môn a blaenoriaethu’r economi leol, drefol a gwledig. Byddaf yn cydweithio ar draws polisïau’r blaid i gael y gorau oll i Ynys Môn a byddaf yn rhoi buddiannau’r Ynys yn gyntaf bob amser.
Rydw i eisiau cynrychioli’r Ynys gyda gonestrwydd, uniondeb ac angerdd. Mae fy ngweledigaeth ar gyfer Ynys Môn wedi’i gwreiddio mewn tegwch a chynnydd. Uwchlaw popeth, rydw i eisiau i wleidyddiaeth eich gwasanaethu chi, eich teulu, a’n cymunedau yn well.