Vaughan Gething AS
Aelod o’r Senedd dros De Caerdydd a Phenarth

Mae hon yn foment enfawr i Gymru ac i’n plaid. Ry’n ni’n wynebu argyfwng costau byw y Torïaid, ac mae Etholiad Cyffredinol ar y gorwel. Mae arnom angen arweinydd sy’n barod o’r diwrnod cyntaf un.

Mae gen i’r profiad, y gwerthoedd a’r weledigaeth sydd eu hangen i arwain mudiad unedig ac i greu dyfodol gobeithiol a thecach.

Fel Cymro â thad o Gymru a mam o Zambia, rwy’n gwybod sut beth yw profi rhagfarn a chael pobl yn cwestiynu eich safle yn y gymuned.

Dydw i ddim eisiau i unrhywun yng Nghymru deimlo felly. Dyna pam ‘dwi wedi ymroi fy mywyd i sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol, fel stiward llawr gwaith undeb llafur, cyfreithiwr undeb llafur, ymgyrchydd datganoli, cynghorydd, AS, a Gweinidog.

Fel Gweinidog Iechyd yn ystod Covid, cefais fy mhrofi yn yr amgylchiadau anoddaf. Tra oedd y Torïaid yn partïo yn Rhif 10, roedd Mark a minnau’n gweithio ddydd a nos i gadw Cymru’n ddiogel gan sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’n Gwasanaeth Iechyd, ein hundebau llafur, a’n cynghorau.

Nawr rwy’n arwain y frwydr hollbwysig dros swyddi dur, ochr yn ochr ag undebau a chymunedau. O dan y pwysau mwyaf, gallwch ymddiried ynof i gamu i’r adwy a chynnal fy marn ac ein gwerthoedd Llafur Cymru yn gadarn.

Er bod dyddiau anodd o’n blaenau, rwy’n obeithiol am y dyfodol gallwn greu gyda’n gilydd:

Dros genedl iach: Gwasanaeth Iechyd Cymru sy’n ddiogel mewn dwylo cyhoeddus ac sydd bob amser yn cael blaenoriaeth yn y gyllideb. Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar wella iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â gofal cymdeithasol sy’n addas ar gyfer ein dyfodol.

Dros ffyniant gwyrdd: Creu swyddi gwyrdd wrth galon amddiffyn dyfodol Cymru. Pontio teg sy’n mynd i’r afael â thlodi tra’n amddiffyn ein planed, gyda swyddi da a chyfoeth cymunedol.

Dros le i’w alw’n gartref: Cyflymu adeiladu tai cymdeithasol. Trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy. Gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gyda phwerau a chyllid wedi’u datganoli i lywodraeth leol.

Dros ddyfodol uchelgeisiol: Cyfleoedd addysgol i bobl o bob oed a chyfnod mewn bywyd, gan ehangu gofal plant a phrentisiaethau. Sicrhau rhagoriaeth yn ein hysgolion a’n colegau, gan weithio gyda athrawon a staff cymorth ysgolion.

Dros Gymru gryfach: Mwy o bwerau i Gymru a ledled Cymru. Cenedl uchelgeisiol a blaengar yn cymryd ei lle ar lwyfan y byd gyda dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg.

Rwy’n barod i arwain a dod â phobl o bob rhan o’n mudiad ynghyd mewn llu ymgyrchu unedig.

Gyda’n gilydd, gallwn greu Cymru lle gall pawb lwyddo, dim ots beth yw eu cefndir na’u golwg.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn greu dyfodol tecach dros Gymru, dros Lafur, drosoch chi.