Jeremy Miles AS
Aelod o’r Senedd dros Castell Nedd

Rwyf wedi treulio fy mywyd fel oedolyn yn ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch. Rwyf ar ganol-chwith y blaid ac wedi ymrwymo i ddatganoli pwerau pellach i, ac o fewn, Cymru a setliad ariannu gwell. Fy mlaenoriaethau yw gwasanaethau cyhoeddus cryf ac economi Gymreig sy’n helpu i leihau tlodi.

Rwyf wedi cyhoeddi chwe addewid allweddol:

1. Creu swyddi cynaliadwy o safon a mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy becyn ysgogiad economaidd gwyrdd.

2. Buddsoddi mewn addysg drwy gynyddu'r canran o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gwario ar ysgolion.

3. Torri rhestrau aros y GIG a sefydlu canolfannau orthopedig pwrpasol i glirio'r rhestrau aros.

4. Tai gweddus yn ein cymunedau drwy ehangu tai cydweithredol a mynd i'r afael â rhwystrau i ddarparu cartrefi cymdeithasol.

5. Tocynnau tecach, gwell trafnidiaeth i annog teithio cyhoeddus ac ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau.

6. Llais cryfach i bobl Cymru - cryfhau’r Senedd a sicrhau bargen decach mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU.

Mae fy maniffesto yn cynnwys manylion am fy mlaenoriaethau ar gyfer ein heconomi, gwaith teg a dyfodol Cymru.

Byddaf yn sicrhau bod Cymru’n parhau i arwain ar yr argyfwng hinsawdd a natur, gan ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Fe welwch gynlluniau i ailffocysu ein hymagwedd at iechyd menywod, gan gynnwys ymgynghoriad menopos yn 40.

Ochr yn ochr â chartrefi cymdeithasol newydd i’w rhentu, bydd cynllun ‘Rhentu i Berchnogi’ newydd yn helpu pobl sy’n cael trafferth prynu cartref.

Byddaf yn gweithio gyda llywodraeth Lafur newydd y DU ar gynllun “rhyddid rhag tlodi” i Gymru, gan ganolbwyntio ar dlodi plant.

Byddaf yn dod â Llafur Cymru yn nes at aelodau, gyda mecanwaith parhaus i aelodau gyflwyno syniadau polisi.

Rwyf wedi bod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru ers 2017 fel prif swyddog y gyfraith, Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Adfer Covid a nawr Gweinidog Addysg. Fel siaradwr Cymraeg, rwy’n falch o fod yn Weinidog y Gymraeg hefyd.

Rwy’n cynrychioli cymoedd a threfi etholaeth Castell-nedd yn y Senedd. Gydag 20 mlynedd o brofiad yn y gyfraith a swyddi masnachol, rwy'n dod â phrofiad busnes lefel uchel o'r tu allan i wleidyddiaeth hefyd.

Rwy’n falch o gefnogaeth mwyafrif o aelodau Llafur y Senedd, Pleidiau Llafur lleol Cymdeithasau Cysylltiedig, ac arweinwyr a dirprwyon cynghorau Llafur. Fi hefyd yw’r ymgeisydd y mae’r Torïaid a Phlaid Cymru yn ei ofni fwyaf.

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru yn uchelgeisiol, gobeithio y byddwch yn ei rhannu.